Y Ffordd Ymlaen

Y Ffordd Ymlaen

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau’r penderfyniad allweddol am ddyfodol rygbi elît yn ein gwlad. Bydd hyn yn cyflwyno strwythur newydd i’r gamp yma yng Nghymru ac yn gweld tri thîm proffesiynol ar gyfer y dynion a dau dîm proffesiynol ar gyfer y menywod. Bydd buddsoddiad sylweddol hefyd yn y llwybr datblygu talent gyda’r bwriad o sicrhau llwyddiant hirdymor, cynaliadwyedd ariannol a gwell cydweithio ar bob lefel o’r gêm. 

 “Rydym wedi clywed yn glir iawn bod cymuned rygbi Cymru eisiau ateb hirdymor ac nid ateb hawdd dros dro – ac rydym wedi gwrando ar y sylwadau hynny ac wedi cytuno gyda nhw.

Mae’r penderfyniad hwn yn fwy na dyfodol ein timau elît yn unig – mae’n ymwneud ag adfer hunaniaeth rygbi Cymru ar draws y system gyfan.”

Richard Collier-Keywood, WRU Chair

Sut y gallwch gadw’r wybodaeth gyfredol ar flaenau eich bysedd

Archif yr Ymgynghoriad

“Fel y gallwn ni adeiladu dyfodol cadarnhaol gyda’n gilydd”

GWYBODAETH ATEGOL