


Croeso
“Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i gyflawni ein haddewid o strategaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru, ac rwy’n falch o’r llwybr at lwyddiant y gallwn ei gyflwyno nawr. “
Abi Tierney
LLE RYDYM NI
CYFLWR Y GÊM 2024

Our Vision | Ein Gweledigaeth
“Uno pobl ac ysbrydoli angerdd yn ein Cenedl Rygbi.”
Our Mission | Ein Nod
“Gweithio gyda’n gilydd i greu profiadau a chyfleoedd rhagorol i bawb drwy gyfrwng ein gêm”
YR HYN RYDYM AM EI GYFLAWNI
Cymru’n Un, lle mae rygbi yn fwy pwysig
GWELEDIGAETH
“Uno pobl ac ysbrydoli angerdd yn ein Cenedl Rygbi.”
CENHADAETH
Gweithio gyda’n gilydd i greu profiadau a chyfleoedd eithriadol i bawb drwy ein gêm
NODAU 2029
Timau cenedlaethol Dynion a Menywod yn gyson ymhlith y 5 Gorau
Timau clwb yn herio yng ngemau ail gyfle URC / Yr Her Geltaidd
Cadw a chynyddu nifer y cyfranogwyr gweithredol
Cynaliadwyedd ariannol ar bob lefel o’r gêm
Tyfu’r teimlad a’r agwedd gadarnhaol tuag at Rygbi Cymru
EIN CONGLFEINI
Datblygu Clybiau a Thimau Cenedlaethol cystadleuol, ysbrydoledig
Meithrin gêm gymunedol ffyniannus a chynaliadwy
Cyflymu datblygiad ecosystem rygbi menywod a merched
Ymgysylltu a thyfu ein cynulleidfa rygbi drwy frandiau a naratif cadarnhaol
GALLUOGWYR
Creu twf o sylfaen ariannol gynaliadwy
Darparu llywodraethiant a diwylliant cynhwysol, cydweithredol sy’n canolbwyntio ar weithredu
Dod yn genedl rygbi “glyfar” a ysgogir gan ddata a mewnwelediad
Adeiladu a meithrin timau a phobl amrywiol, sy’n perfformio’n dda ac sy’n ymgysylltu ar draws Rygbi Cymru
LLE RYDYM AM FOD: 2029
Sut y bydd Rygbi Cymru yn newid o ran cwrs y strategaeth
MENTRO BREUDDWYDIO
Mae ein timau rhyngwladol yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa i ennill anrhydeddau mewn twrnameintiau rhyngwladol mawr – byddai cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd, er enghraifft, lle mae timau lle mae’n timau’n cystadlu’n wirioneddol am y tlws.
ENNILL CALONNAU A MEDDYLIAU
Mae pob agwedd ar ein gêm yn deilwng o’r lle haeddiannol y mae rygbi yn ei gymryd yng nghalonnau a meddyliau ein cefnogwyr. Mae ein rygbi yn treiddio drwy’r ymwybyddiaeth gyfunol yng Nghymru ond hefyd yn cyrraedd o amgylch y byd gan adlewyrchu a dathlu gwerthoedd diwylliannol cadarnhaol ein cenedl.
LLWYBR I YMFALCHÏO YNDDO UNWAITH ETO
Llwybr chwaraewyr iach sy’n ehangu ac sy’n cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer llwyddiant yn ein gêm broffesiynol ac ar lefel ryngwladol uwch, gan nodi, cadw a gofalu am ein talent.
TYFU EIN GÊM
Cynghrair cymunedol domestig ffyniannus sydd wedi dod yn fagwrfa i dalent broffesiynol Cymru, gan gadw a gofalu am y dalent honno gan roi llwyfan i dwf masnachol parhaus gêm y Merched.
LLWYDDIANT AR LEFEL CLWB
Mae ein clybiau proffesiynol yn ennill gemau yn rheolaidd, yn cystadlu am anrhydeddau ac yn denu cefnogwyr sy’n gweddu i’w statws fel cynhalwyr safonol ein gêm ddomestig, gartref a thramor.
CYFLE I BAWB
Sicrhau bod y cyfle i fwynhau rygbi ar gael i bob un o’n plant a’u teuluoedd drwy ein clybiau rygbi a’n hysgolion, drwy raglenni sy’n mynd â’n gêm i rannau o Gymru a esgeuluswyd o’r blaen neu sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.
BOD YN GAMP DEWIS CYNTAF
Rygbi yw’r gamp dewis cyntaf i gymryd rhan ynddi yng Nghymru, ac mae’n parhau i wella bywydau cymunedau a theuluoedd ledled y wlad mewn modd sy’n adlewyrchu ei phwysigrwydd diwylliannol.
ARWAIN O’R BLAEN
Mae arweinwyr, strategwyr a llunwyr barn Undeb Rygbi Cymru yn dangos amrywiaeth o syniadau a chamau gweithredu, gan adlewyrchu a chynrychioli trawstoriad llawn ein cymunedau Cymreig.
STADIWM GORAU’R BYD
Mae Stadiwm Principality yn darparu profiad o’r radd flaenaf i gwsmeriaid ac mae’n parhau i fod yn lleoliad y mae’n rhaid chwarae ynddo ac y mae’n rhaid ymweld ag ef. Mae’r Stadiwm yn parhau i ddenu digwyddiadau mwyaf a gorau’r byd gan greu ymdeimlad o edmygedd ac eiddigedd gan leoliadau eraill.
PROFIADAU BYTHGOFIADWY
Gwerthu pob tocyn ein stadia yn gyson ar draws rygbi proffesiynol Cymru lle mae’r galw yn aml yn drech na’r cyflenwad. Creu cynulleidfa gynyddol y mae gwylio rygbi yn weithgaredd hamdden dibynadwy i gefnogwyr domestig ac, fel digwyddiadau Stadiwm Principality, yn brofiad y mae’n ‘rhaid ymweld ag ef’ i unrhyw ymwelwyr â Chymru.
MAE CYFATHREBU’N ALLWEDDOL
Ôl-troed digidol deinamig, esblygol ac ysbrydoledig mewn chwaraeon byd-eang sy’n gweddu i genedl lle mae ‘rygbi’n bwysicach’ gan sicrhau bod cefnogwyr newydd a phresennol yn gallu rhyngweithio â’n gêm a’i mwynhau ar eu telerau nhw, pryd, ble a sut bynnag y mae angen iddynt wneud hynny.
CALON EIN CYMUNEDAU
Amgylcheddau cynhwysol, croesawgar lle caiff rygbi ei gyflwyno. Cyfleusterau priodol sy’n cael eu defnyddio’n llawn gan y cymunedau o’u cwmpas, gan sicrhau amgylchedd ffyniannus i bawb sy’n ymwneud â’r gêm.
RYGBI CYMRU UNEDIG
Mae gêm broffesiynol Cymru yn siarad ag un llais ac yn defnyddio’r gystadleuaeth gynhenid sydd ei hangen ar y cae i gydweithio tuag at un gôl oddi ar y cae, h.y. llwyddiant cyffredinol timau Cymru.
EDRYCH YMLAEN
Sefydlogrwydd ariannol a thwf cynaliadwy yn arwain at lwyddiant parhaus yn ein gêm broffesiynol. Gweledigaeth strategol a ategir gan reolaeth ariannol ddarbodus sy’n ysbrydoli ac yn cynnal y gêm yng Nghymru ar bob lefel.
CRYS I BAWB
Ymrwymiad y bydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon popeth a wnawn i sicrhau arfer gorau, a denu a chadw’r dalent orau ar y cae ac oddi arno. Bydd cyflawni’r 36 argymhelliad allweddol fel rhan o’r Adolygiad Annibynnol yn parhau i fod yn ganllaw i lwyddiant, ac yn helpu i lunio diwylliant blaengar a chroesawgar i gwmnïau ymfalchïo ynddo
SUT RYDYM NI’N CYFLAWNI HYN?
GWYBODAETH ATEGOL

Effeithiau Iechyd a Chymdeithasol Cymryd Rhan Mewn Rygbi 2024
Sut gallwn greu Cymru iachach?

Rygbi a Chi
Sut y gallwch gymryd rhan a helpu i gyfrannu at lwyddiant y gêm?

Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig
Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS
Rhannu’r dudalen hon:





