SUT BYDDWN NI’N CYFLAWNI HYN?

Datblygu Clybiau a Thimau Cenedlaethol cystadleuol ac ysbrydoledig
- Tîm (Dynion) i fod ymhlith y 5 gorau yn y byd
- Tîm (Menywod) i fod ymhlith y 5 gorau yn y byd
- O leiaf 2 dîm mewn gemau ail gyfle ar gyfer y BRU a Chwpan Her Ewrop erbyn 2029
- Un tîm yn gyson ymhlith y 3 uchaf ac 1 o’n timau i ennill yr Her Geltaidd erbyn 2029

Meithrin gêm gymunedol ffyniannus
a chynaliadwy
- 10,000 o fenywod a merched wedi’u cofrestru’n weithredol erbyn Mehefin 2029 gyda 10% o gyfranogwyr o gymunedau ethnig amrywiol
- 22,850 o Fechgyn 12-18 oed wedi’u Cofrestru’n Weithredol erbyn Mehefin 2029 gyda 10% o’r cyfranogwyr yn dod o gymunedau ethnig amrywiol
- 90% o ddyfarnwyr wedi’u cofrestru’n weithredol ar lefel 2 a 3.
- Ymgysylltu 25,000 o bobl ifanc o gymunedau ethnig amrywiol
- Bydd gan 95% o glybiau gynllun datblygu gweithredol a byddant yn rhan o’r broses adolygu a hunanasesu.

Cyflymu datblygiad ecosystem
rygbi menywod a merched
- Nifer y gemau ar gyfer yr Her Geltaidd – cynyddu i 12 bob tymor
- 50% oo brif chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn chwarae yn yr Her Geltaidd
- Cynyddu dyfarnwyr benywaidd ar y llwybr elît i 50%
- Cynyddu Hyfforddwyr Perfformiad benywaidd mewn rôl i 50%

Ymgysylltu a thyfu ein cynulleidfa rygbi
drwy frandiau a naratif cadarnhaol
- Cynyddu cyfartaledd presenoldeb ar draws y gêm ac arallgyfeirio cynulleidfa Rygbi Cymru
- Cynyddu ymdeimlad cadarnhaol tuag at Rygbi Cymru ac URC drwy ein cyflawniadau
Cefnogwyd gan y 4 conglfaen canlynol:

Creu twf a sylfaen ariannol gynaliadwy
- Sicrhau refeniw lefel uchaf o £120M erbyn 2029
- Ailgyllido ein mantolen i leihau cost dyledion a chefnogi mwy o fuddsoddi yn ein gêm

Darparu llywodraethiant a diwylliant cynhwysol, cydweithredol sy’n canolbwyntio
ar weithredu
- Amrywio cyfansoddiad Cyngor URC
- Cynyddu amrywiaeth y Bwrdd Cyfarwyddwyr ymhellach

Dod yn genedl rygbi “glyfar” a ysgogir gan ddata a mewnwelediad
- Cael ein cydnabod yn allanol fel un o’r arloeswyr technoleg gorau/clyfar ym maes chwaraeon y DU.
- Adeiladu modelau rhagolygon tocynnau sy’n gywir i amrywiant +/- 5% ar gyfer holl gemau Proffesiynol Rygbi Cymru

Adeiladu a meithrin timau a phobl amrywiol, sy’n perfformio’n dda ac sy’n ymgysylltu
ar draws Rygbi Cymru
- Byddai 85% o weithwyr yn argymell Grŵp URC fel lle gwych i weithio
- Cynyddu cynrychiolaeth aelodau tîm gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau amrywiol