Croeso
Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i gyflawni ein haddewid o strategaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru, ac rwy’n falch o’r llwybr at lwyddiant y gallwn ei gyflwyno nawr.
Ers i mi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru fel Prif Weithredwr, yn Ionawr 2024, mae angerdd ac ymrwymiad diwyro pawb sy’n ymwneud â’n gêm genedlaethol wedi parhau i wneud argraff arnaf.


Cymru’n Un
O’n staff ymroddedig, ein cefnogwyr yma yng Nghymru ac ar draws y byd, ein clybiau proffesiynol i’n clybiau cymunedol a’r holl wirfoddolwyr sy’n rhedeg rygbi Cymru bob penwythnos o’r flwyddyn, ni yw ‘Cymru’n Un’.
Mae ein Strategaeth 2024/29 yn darparu cyfeiriad clir a fydd yn mynd â rygbi Cymru ar daith i ddyfodol ffyniannus, llewyrchus a chynaliadwy, gyda phob cam cysylltiedig wedi’i amlinellu’n fanwl. Byddwn yn cael ein harwain ganddi ac yn atebol i’w huchelgeisiau, ei nodau a’i hamcanion, sydd oll wedi’u hategu gan genhadaeth, gweledigaeth ac ymrwymiad i ‘weithio gyda’n gilydd i greu profiad a chyfleoedd rhagorol i bawb drwy ein gêm’.
Cefnogir y genhadaeth gyffredinol gan bedwar conglfaen strategol fel y cyflwynwyd ym mis Mehefin y llynedd.
- Datblygu Clybiau a Thimau Cenedlaethol cystadleuol ysbrydoledig
- Meithrin gêm gymunedol ffyniannus a chynaliadwy
- Cyflymu datblygiad ecosystem rygbi menywod a merched
- Dal dychymyg, ymgysylltu a thyfu ein cynulleidfa rygbi drwy frandiau, profiadau a naratif cadarnhaol.


A bydd pob conglfaen yn cael ei fesur yn erbyn pum nod allweddol:
- Gweld timau dynion a menywod cenedlaethol Cymru yn gyson ymhlith y pum tîm uchaf ymhlith detholion y byd
- I glybiau proffesiynol Cymru fod yn gyson gystadleuol yn rowndiau olaf cystadlaethau domestig
- Parhau i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan weithredol yn y gêm
- Sicrhau cynaliadwyedd ariannol ar gyfer pob lefel o’r gêm a dyfodol sicr i’ch pedwar clwb proffesiynol
- I dyfu’r teimlad a’r agwedd gadarnhaol tuag at Rygbi Cymru yn gyffredinol
Mae gan rygbi ddylanwad hynod arwyddocaol ar ddiwylliant Cymru, dyma ein camp genedlaethol; a chyda hynny daw cyfrifoldeb aruthrol i adlewyrchu, parchu a dathlu ein diwylliant. Rydym yn credu yng ngrym cydweithio, a gyda’r meddylfryd hwn y gwnaethom gychwyn ar ein taith i wireddu strategaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru. Mae strategaeth ‘Cymru’n Un’ wedi’i chreu gyda chymorth a chefnogaeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol a’n clybiau. Gwnaethom adeiladu’r weledigaeth hon gyda’n gilydd, a dyma sut y mae’n rhaid i ni symud ymlaen.
Mae hon yn ffordd newydd o weithio i ni ac mae’n ddyletswydd ar bawb i gydweithio er mwyn sicrhau llwyddiant, edrych ymlaen a gwireddu ein huchelgais ymhen pum mlynedd, datgloi potensial twf llawn y gêm ac yn y pen draw gyfrannu at gymdeithas iach, ffyniannus yng Nghymru.

Erbyn 2029 bydd ein strategaeth uchelgeisiol wedi rhoi sefydlogrwydd ariannol i’n gêm broffesiynol ac wedi adfer rygbi i’w le haeddiannol yng nghalonnau a meddyliau’r genedl. Byddwn yn gonglfaen diwylliannol sy’n adlewyrchu’r gwerthoedd sy’n bwysig i ni ac yn eu rhannu a’u gweithredu ledled y byd.
Diolch

Abi Tierney
Prif Weithredwr, Undeb Rygbi Cymru