
DATBLYGU CLYBIAU A THIMAU CENEDLAETHOL YSBRYDOLEDIG
RHAID YSBRYDOLI

Ein Nodau
- Y ddau dîm cenedlaethol yn gyson ymhlith y 5 gorau yn y byd
- Timau cenedlaethol yn gallu cystadlu am anrhydeddau yn flynyddol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a rownd gynderfynol a therfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2027 a 2029
- Clybiau proffesiynol sy’n gyson gystadleuol yn y gemau ail-gyfle o’u cystadlaethau
- Gwell chwaraewyr a mwy ohonynt ar gyfer y gêm glwb yn broffesiynol a rhyngwladol yng Nghymru
Ein Hamcanion
- Hybu dwy raglen ysbrydoledig uwch yng Nghymru sy’n galluogi chwaraewyr i ragori ac ennill ar lwyfan y byd drwy ddilyn llwybr rhagoriaeth barhaus.
- Darparu amgylcheddau datblygu rhagorol ar gyfer holl dalentau Cymru drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, gwasanaethau cymorth, ac amgylcheddau hyfforddi dyddiol
- Cydweithio clir i feithrin gallu a darparu ecosystem datblygu chwaraewyr
- Gweithredu cystadlaethau uchelgeisiol ar bob cam o daith y chwaraewyr sy’n eu paratoi’n well ar gyfer gofynion rygbi proffesiynol

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
Rygbi saith bob ochr
- Heb ei amlygu fel blaenoriaeth gan unrhyw randdeiliaid a dylai fod yn gyfrifoldeb i Rygbi saith bob ochr Prydain Fawr. Fodd bynnag, dylid parhau i ystyried y berthynas â chwaraewyr benywaidd sydd hefyd yn chwaraewyr Rygbi 15 bob ochr.
Dod â’r holl chwaraewyr (allweddol ) gwrywaidd
yn ôl i Gymru
- Consensws y dylem fod yn hapus i rai chwaraewyr gwrywaidd ddilyn cyfleoedd (ariannol a pherfformiad) dramor, os nad oes cynnig addas yng Nghymru.
Source: WRU Consultation; One Wales data and insights; Portas analysis
MEITHRIN GÊM GYMUNEDOL FFYNIANNUS A CHYNALIADWY
CARU’R GÊM GYMUNEDOL

Ein Nodau
- Tyfu a chadw merched mewn rygbi 6-18 oed trwy leoliadau addysgol a/neu glybiau/hybiau yng Nghymru
- Tyfu a chadw bechgyn mewn rygbi 12-18 oed drwy leoliadau addysgol a/neu glybiau yng Nghymru
- Cynyddu a chadw nifer y dyfarnwyr cymwys (Lefel 2 a Lefel 3)
- Cynyddu a chadw nifer yr hyfforddwyr cymwys gyda phob tîm (dull wedi’i dargedu at dimau 6 i 18 oed)
- Bydd gennym weithlu gwirfoddol amrywiol, ymgysylltiol, yn gweithio mewn amgylcheddau diogel, cynhwysol a chroesawgar
Ein Hamcanion
- Rhoi cyfle i bob bachgen a merch 6-18 oed i ymgysylltu, mwynhau a rhagori ar rygbi Cymru drwy leoliadau addysgol a/neu glybiau yng Nghymru
- Gwella diogelwch a hygyrchedd ein cyfleusterau rygbi
- Gwneud y mwyaf o effaith y gêm gymunedol drwy ailddiffinio cefnogaeth i glybiau
- Gweithio gyda’r llywodraeth a phartneriaid lleol i ehangu effaith gymdeithasol rygbi yn ein cymunedau
- Cefnogi’r gweithlu rygbi cymunedol a gwirfoddolwyr er mwyn cael eu gwirio a’u hyfforddi’n gywir a chymwys.

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
Rygbi i oedolion
- Mae canolbwyntio ar rygbi ieuenctid yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y gêm. Yn fyd-eang, dechreuodd >75% o oedolion sy’n chwarae camp wneud hynny yn ystod eu plentyndod.
Ehangu cyfleusterau a rhwydwaith clybiau
- Sylw cryf i glybiau a chyfleusterau cymunedol; consensws y dylid canolbwyntio ar ansawdd / atgyfnerthu nid nifer
Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data cofrestru Gemau Cymunedol; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
CYFLYMU DATBLYGIAD ECOSYSTEM RYGBI MENYWOD A MERCHED
MERCHED A MENYWOD

Ein Nodau
- Buddsoddiad teg yng ngêm gymunedol dynion a bechgyn a menywod a merched
- Cynyddu nifer y menywod a’r merched fyddai’n argymell eu clwb i’w ffrindiau/teulu
- Datblygu dau glwb proffesiynol yng Nghymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ddomestig gystadleuol, gynaliadwy
- Llwybr clir i gynyddu nifer yr hyfforddwyr a dyfarnwyr benywaidd
Ein Hamcanion
- Gwneud rygbi yn gamp o ddewis i fenywod a merched ar bob lefel
- Darparu profiadau rygbi cadarnhaol o ansawdd uchel i bob menyw a merch
- Datblygu cystadleuaeth addas ar gyfer chwaraewyr elît Cymru
- Cefnogi merched mewn rygbi i ragori ar y lefel uchaf
- Datblygu gweithlu o hyfforddwyr a staff perfformiad o’r radd flaenaf

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
Daprariaeth i Fenywod a Merched ym mhob clwb
- Cydnabod nad oes eto’r galw i holl glybiau Cymru gael darpariaeth i fenywod a merched, a’i bod yn debygol bod nifer presennol clybiau’r dynion yn rhy uchel o ystryried nifer y chwaraewyr.
Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
DAL DYCHYMYG, YMGYSYLLTU A THYFU EIN CYNULLEIDFA RYGBI DRWY FRANDIAU, PROFIADAU A NARATIF CADARNHAOL
WRTH GALON Y GENEDL

Ein Nodau
- Cynyddu canfyddiad cadarnhaol rygbi Cymru
- Cynyddu ein torfeydd
- Cadw’r sylfaen cefnogwyr presennol, denu cefnogwyr newydd a chynyddu cyfran y cefnogwyr iau
- Creu galw am docynnau a gwerthu pob tocyn yn Stadiwm Principality am brisiau’r farchnad ar gyfer holl gemau rhyngwladol tîm cynta’r dynion a menywod
- Cynyddu’r torfeydd cyfartalog mewn gemau clwb proffesiynol
Ein Hamcanion
- Uno rygbi Cymru drwy adrodd straeon cadarnhaol, gan alluogi sgwrs ddwy ffordd ar y cyd â chynulleidfaoedd a rhanddeiliaid amrywiol
- Codi a gwella proffil byd-eang chwaraewyr proffesiynol dynion a menywod Cymru.
- Creu dealltwriaeth fanwl o’r galw i fabwysiadu dull a arweinir gan ddata a mewnwelediad o ymgysylltu â chefnogwyr
- Gwella profiadau ar ddiwrnod gêm ym mhob un o’n meysydd, yn enwedig Stadiwm Principality, er mwyn cynnal a thyfu ei henw da ledled y byd
- Anrhydeddu ein diwylliant bywiog yng Nghymru, gan adlewyrchu ein gwerthoedd ac arwyddocâd unigryw ein treftadaeth a’n hiaith.

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
- Bydd yr adnoddau presennol a ffocws ar Dîm Cyntaf y Dynion, Tîm Cyntaf y Menywod, timau/clybiau proffesiynol a digwyddiadau creu incwm yn Stadiwm Principality. Dylai unrhyw gynnyrch neu wasanaethau eraill gael eu costio a’u cwmpasu gan ddyrannu adnoddau fesul prosiect
Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
GALLUOGWR 1
CREU TWF O SYLFAEN ARIANNOL GYNALIADWY
SEILIAU CADARN

Ein Nodau
- Mantolen a strategaeth ddyledion wedi’u diffinio’n glir ac wedi’u dilyn gyda dull ‘Cymru’n Un’
- Sefydlu strategaeth a chyllidebau ariannol hirdymor cadarn
- Ailfuddsoddi cynaliadwy ac uchelgeisiol yn rygbi Cymru, yn unol â’i anghenion
- Gwell elw ar linellau elw allweddol
- Mwy o refeniw o fentrau twf newydd sy’n cyd-fynd â’n busnes craidd
Ein Hamcanion
- Ailstrwythuro dyledion ac ystyried dulliau ariannu eraill i ganiatáu buddsoddiad mewn rygbi
- Hyrwyddo gwerth y timau cenedlaethol a Stadiwm Principality
- Gweithio gyda phartneriaid i gynyddu gwerth cystadlaethau clwb a rhyngwladol
- Cynyddu cydweithredu ar draws y gêm gyfan er budd pawb a chynyddu effeithlonrwydd

Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
GALLUOGWR 2
MEITHRIN DIWYLLIANT LLYWODRAETHU CYNHWYSOL A CHYDWEITHREDOL, SY’N CEFNOGI GWNEUD PENDERFYNIADAU YSTWYTH
CYDWEITHIO EFFEITHIOL

Ein Nodau
- Ail-lansio’r Prosiect Ymgorffori Clybiau, gan gefnogi clybiau i ymgorffori a darparu amgylcheddau sydd wedi’u llywodraethu’n dda
- Gwella cyd-lywodraethu/gwneud penderfyniadau gyda chlybiau proffesiynol
- Sicrhau Cyngor URC sy’n fwy amrywiol
- Cynyddu amrywiaeth y Bwrdd Cyfarwyddwyr ymhellach
- Rhoi’r un amlygrwydd i’r Gymraeg mewn gohebiaeth lle bo hynny’n ymarferol bosibl
Ein Hamcanion
- Datblygu diwylliant llywodraethu cynhwysol o fewn rygbi Cymru, lle mae pawb yn gweithredu egwyddorion ymddiriedaeth
- Adeiladu a sefydlu system eglurder ynghylch rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd
- Sicrhau bod llywodraethu rygbi cymunedol yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru, gan ddarparu clybiau a lywodraethir yn dda gyda modelau gweithredu cynaliadwy

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
Adolygiadau neu ddadansoddiadau llywodraethu newydd
- Cytuno y dylai’r pwyslais ar y cyfnod strategol nesaf fod ar weithredu canfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol yn hytrach na chynnal unrhyw adolygiadau pellach.
Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
GALLUOGWR 3
DOD YN GENEDL RYGBI GLYFAR A YSGOGIR GAN DDATA A MEWNWELEDIAD
DATA – Y DYFODOL

Ein Nodau
- Bod y sefydliad chwaraeon craffaf o safbwynt defnyddio data yn y DU
- Gwobrwyo teyrngarwch drwy ddeall ein cefnogwyr yn well
- Datblygu atebion digidol sy’n creu refeniw
- Gwerthu holl docynnau gemau rygbi Cymru drwy fewnwelediad a yrrir gan ddata
- Deallusrwydd Artiffisial a digidol wedi’u sefydlu o fewn rygbi Cymru.
Ein Hamcanion
- Sefydlu prosesau casglu, storio a rheoli data craidd ar bob lefel o’r gêm.
- Defnyddio pŵer data a dadansoddeg uwch i gynyddu gwerth masnachol a pherfformiad ar y cae
- Adolygu ac adfywio ein llwyfannau digidol i wella ein hymgysylltiad â staff, chwaraewyr a chefnogwyr
- Nodi cyfleoedd ar gyfer prosesau a gwasanaethau a rennir rhwng URC a chlybiau proffesiynol
- Mabwysiadu penderfyniadau a ysgogir gan ddata ar bob lefel o’r gêm.

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
Lleihau ein dibyniaeth ar gyflenwyr trydydd parti a chryfhau ein galluoedd digidol ein hunain
Lleihau’r system, dyblygu a chyfuno casglu data ar draws Rygbi Cymru lle bo’n briodol
Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
GALLUOGWR 4
ADEILADU TIMAU AMRYWIOL, SY’N PERFFORMIO’N DDA AC SY’N YMGYSYLLTU AR DRAWS RYGBI CYMRU
AMRYWIAETH AC ARBENIGEDD

Ein Nodau
- Bod yn gyflogwr delfrydol yng Nghymru
- Grŵp URC yn cael ei gydnabod fel lle gwych i weithio gan staff
- Denu a chadw gweithlu amrywiol sy’n perfformio’n dda ar bob lefel o’r gamp yng Nghymru
- Cymorth addas i dyfu a chyrraedd ein potensial ar bob lefel o’r gamp yng Nghymru
- System weithredu glir lle mae pob aelod o’r tîm yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn deall eu cyfraniad i URC
Ein Hamcanion
- Cydweithio â’n clybiau proffesiynol i ddefnyddio ein hadnoddau’n effeithiol, gyda’n gilydd drwy rannu gwasanaethau
- Cynyddu ymgysylltiad ar draws pob agwedd o’r gêm.
- Cyflwyno strwythur cydnabyddiaeth newydd a chystadleuol
- Dod yn sefydliad sydd â Chynhwysiant, Amrywiaeth a Chydraddoldeb yn flaenllaw yn ein diwylliant a’n hamgylchedd
- Ymgorffori meddylfryd o welliant a datblygiad parhaus
- Buddsoddi mewn systemau a phrosesau i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata.

Meysydd â llai o ffocws a’r rhesymeg am hynny
Gweithlu sy’n tyfu
- Cytuno y dylid canolbwyntio ar ddatblygu ac addysgu timau, yn hytrach na dim ond ychwanegu rhagor o adnoddau
Ail-ystyried buddsoddiad ar draws
rygbi Cymru
- Cytuno bod y meysydd penodol hyn wedi cael llawer o arian yn hanesyddol ac y dylid canolbwyntio ar effeithiolrwydd
Ffynhonnell: Ymgynghoriad URC; data a mewnwelediadau Cymru’n Un; Dadansoddiad Portas
GWYBODAETH ATEGOL

Effeithiau Iechyd a Chymdeithasol Cymryd Rhan Mewn Rygbi 2024
Sut gallwn greu Cymru iachach?

Rygbi a Chi
Sut y gallwch gymryd rhan a helpu i gyfrannu at lwyddiant y gêm?

Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig
Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS
Rhannu’r dudalen hon:
